Cyfreithiol
Telerau Defnydd
1. Cyflwyniad
Mae'r telerau a'r amodau a nodir isod (y “Telerau a'r Amodau”) yn berthnasol rhwng Whisper a chi, ac yn llywodraethu telerau eich defnydd o wefan Whisper (“Gwefan Whisper”).
Darllenwch y Telerau a'r Amodau yn ofalus, gan y gallent effeithio ar eich hawliau cyfreithiol. Drwy ddefnyddio Gwefan Whisper, rydych yn cadarnhau eich bod yn derbyn y Telerau a'r Amodau hyn a'ch bod yn cytuno i gydymffurfio â hwy ac i gael eich rhwymo ganddynt. Os nad ydych yn cytuno i gael eich rhwymo gan y Telerau a'r Amodau, rhaid i chi beidio â defnyddio Gwefan Whisper.
2. Eiddo deallusol a defnydd derbyniol/gwaharddedig
Mae'r holl hawliau eiddo deallusol mewn unrhyw gynnwys mewn unrhyw gyfrwng ar Wefan Whisper, oni bai eu bod wedi'u llwytho i fyny gan ddefnyddwyr, yn eiddo i Whisper neu wedi'u trwyddedu iddo. Caiff defnyddwyr weld, lawrlwytho ac argraffu tudalennau o Wefan Whisper at eu defnydd personol eu hunain, ar yr amod, ym mhob achos, bod Whisper yn cael ei gydnabod fel ffynhonnell y deunydd. Ac eithrio fel y darperir yn benodol yn y paragraff hwn, ni chewch gopïo, lawrlwytho, addasu, atgynhyrchu, diwygio, dosbarthu na dileu nac fel arall ddefnyddio at unrhyw ddiben, unrhyw ddeunydd, cynnwys na rhan o Wefan Whisper.
Er mwyn osgoi amheuaeth, ni chewch:
- defnyddio unrhyw gynnwys o Wefan Whisper mewn unrhyw ffordd sy'n achosi, neu a allai achosi, difrod i Wefan Whisper neu sy'n ymyrryd â defnydd neu fwynhad unrhyw berson arall o Wefan Whisper, neu sydd (a) mewn unrhyw ffordd yn niweidiol, yn anghyfreithlon, yn gamdriniol, yn aflonyddol, yn fygythiol neu'n annerbyniol fel arall (neu y gellir yn rhesymol ei ystyried yn annerbyniol) neu (b) yn torri unrhyw gyfraith neu reoliad perthnasol;
- gwneud, trosglwyddo na storio copïau electronig o unrhyw gynnwys a gynhwysir yng Ngwefan Whisper.
3. Defnyddio cwcis ar Wefan Whisper
Mae Gwefan Whisper yn defnyddio cwcis. Dim ond os ydych yn eu derbyn y caiff cwcis nad ydynt yn hollol angenrheidiol i redeg y wefan, gan gynnwys cwcis dadansoddeg, eu gosod. Gallwch eu derbyn neu eu gwrthod pan fyddwch yn cyrraedd gyntaf, a newid eich dewis ar unrhyw adeg o'r Polisi Cwcis.
Ffeiliau testun bach a roddir ar eich peiriant yw cwcis. Mae cwcis yn gwneud llawer o wahanol bethau, fel gadael i chi lywio rhwng tudalennau'n effeithlon, storio eich dewisiadau, a gwella eich profiad o wefan yn gyffredinol. Maent yn gwneud y rhyngweithio rhyngoch chi a'r wefan yn gyflymach ac yn haws. Yn gyffredinol, defnyddir cwcis i gadw dewisiadau defnyddwyr, storio gwybodaeth ar gyfer pethau fel trolïau siopa a darparu data dienw i gymwysiadau trydydd parti fel Google Analytics.
Os nad yw gwefan yn defnyddio cwcis, bydd yn meddwl eich bod yn ymwelydd newydd bob tro y byddwch yn symud i dudalen newydd ar y wefan – er enghraifft, pan fyddwch yn rhoi eich manylion mewngofnodi ac yn symud i dudalen arall ni fydd yn eich adnabod ac ni fydd yn gallu eich cadw wedi mewngofnodi.
Yn gyffredinol, bydd cwcis yn gwneud eich profiad pori'n well. Fodd bynnag, efallai y byddai'n well gennych analluogi cwcis ar Wefan Whisper (ac ar wefannau eraill hefyd). Y ffordd fwyaf effeithiol o wneud hyn yw analluogi cwcis yn eich porwr. Gellir dod o hyd i fanylion am sut i wneud hyn yn adran Gymorth eich porwr neu drwy edrych ar www.aboutcookies.org or www.cookiesandyou.com sy'n cynnig arweiniad ar gyfer pob porwr modern.
4. Argaeledd Gwefan Whisper ac ymwadiadau
Darperir unrhyw gyfleusterau, offer, gwasanaethau neu wybodaeth ar-lein y mae Whisper yn eu rhoi ar gael drwy Wefan Whisper (“y Gwasanaeth”) “fel y maent” ac ar sail “fel y maent ar gael”.
Nid yw Whisper yn rhoi unrhyw warantau y bydd y Gwasanaeth yn rhydd o ddiffygion a/neu namau ac nid yw'n darparu unrhyw warantau (penodol nac ymhlyg) o addasrwydd at ddiben penodol, cywirdeb gwybodaeth, cydnawsedd nac ansawdd boddhaol.
Nid oes rhwymedigaeth ar Whisper i ddiweddaru gwybodaeth ar Wefan Whisper.
Nid yw Whisper yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw darfu ar Wefan Whisper nac am ei hanargaeledd, ac mae'n cadw'r hawl i newid, atal neu ddirwyn i ben y cyfan neu unrhyw ran o Wefan Whisper, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i unrhyw gynhyrchion neu wasanaethau a all fod ar gael ar Wefan Whisper o bryd i'w gilydd. Oni nodir yn benodol fel arall, bydd y Telerau a'r Amodau yn parhau i fod yn berthnasol i unrhyw fersiwn ddiwygiedig o Wefan Whisper.
Mae Whisper yn cytuno i ddefnyddio ymdrechion rhesymol i sicrhau bod Gwefan Whisper yn rhydd ac yn ddiogel rhag unrhyw wallau, firysau a meddalwedd faleisus. Fodd bynnag, ni roddir unrhyw warantau na sicrwydd i'r Defnyddwyr, a rhaid i bob Defnyddiwr gymryd cyfrifoldeb am eu diogelwch eu hunain, gan gynnwys diogelwch eu manylion personol a'u cyfrifiaduron.
5. Cyfyngu ar atebolrwydd
Ni fydd dim yn y Telerau a'r Amodau hyn yn cyfyngu ar nac yn eithrio atebolrwydd Whisper nac eich atebolrwydd chi am:
- atebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol o ganlyniad i esgeulustod Whisper neu eich esgeulustod chi fel y bo'n berthnasol;
- atebolrwydd am dwyll neu gamliwio twyllodrus; neu
- atebolrwyddau mewn unrhyw ffordd nas caniateir o dan y gyfraith berthnasol.
Ni fydd Whisper yn atebol i chi mewn perthynas ag unrhyw golledion sy'n codi o ganlyniad i ddigwyddiadau y tu hwnt i'n rheolaeth resymol.
I'r graddau mwyaf a ganiateir gan y gyfraith, nid yw Whisper yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw un o'r canlynol:
- unrhyw golledion busnes, megis colli elw, incwm, refeniw, arbedion disgwyliedig, busnes, contractau, ewyllys da neu gyfleoedd masnachol;
- colli neu lygru unrhyw ddata, cronfa ddata, meddalwedd neu galedwedd;
- unrhyw golled neu ddifrod arbennig, anuniongyrchol neu ganlyniadol.
6. Polisïau eraill a allai fod yn berthnasol
Cyfeiriwch hefyd at Polisi Preifatrwydd and Polisi Cwcis Whisper, a allai hefyd fod yn berthnasol i'ch defnydd o Wefan Whisper.
7. Cyffredinol
Ni chewch drosglwyddo unrhyw un o'ch hawliau o dan y Telerau a'r Amodau i unrhyw berson arall. Caiff Whisper drosglwyddo ei hawliau o dan y Telerau a'r Amodau pan fyddwn yn credu'n rhesymol na fydd eich hawliau'n cael eu heffeithio.
Gallwn amrywio'r Telerau a'r Amodau hyn o bryd i'w gilydd. Bydd telerau diwygiedig o'r fath yn berthnasol i Wefan Whisper o ddyddiad eu cyhoeddi. Dylai defnyddwyr wirio'r Telerau a'r Amodau yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn gyfarwydd â'r fersiwn fwyaf cyfredol.
Mae'r Telerau a'r Amodau hyn (ynghyd ag unrhyw bolisïau eraill a allai fod yn berthnasol fel y cyfeirir atynt yn y Telerau a'r Amodau hyn) yn cynnwys y cytundeb cyfan rhwng y partïon mewn perthynas â Gwefan Whisper ac yn disodli unrhyw drefniadau neu gytundebau eraill a allai fod wedi digwydd mewn perthynas â'r Telerau a'r Amodau. Er mwyn osgoi amheuaeth, ni fydd Deddf Contractau (Hawliau Trydydd Partïon) 1999 yn berthnasol i'r Telerau a'r Amodau hyn ac ni fydd gan unrhyw drydydd parti unrhyw hawl i orfodi nac i ddibynnu ar unrhyw ddarpariaeth o'r Telerau a'r Amodau hyn.
Os canfyddir bod unrhyw ddarpariaeth o'r Telerau a'r Amodau hyn (neu ran o unrhyw ddarpariaeth) yn annilys, yn anghyfreithlon neu'n anorfodadwy, bernir bod y ddarpariaeth honno neu'r rhan honno ohoni wedi'i dileu i'r graddau sy'n ofynnol, ac ni effeithir ar ddilysrwydd a gorfodadwyedd darpariaethau eraill y Telerau a'r Amodau hyn.
Oni chytunir fel arall, ni fernir bod unrhyw oedi, gweithred nac esgeulustod gan barti wrth arfer unrhyw hawl neu rwymedi yn ildiad o'r hawl neu'r rhwymedi hwnnw nac unrhyw hawl neu rwymedi arall.
Bydd y cytundeb hwn yn cael ei lywodraethu a'i ddehongli yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr a bydd pob anghydfod sy'n codi o dan y cytundeb hwn yn ddarostyngedig i awdurdodaeth unigryw llysoedd Cymru a Lloegr.